Gwaith Alun eBook

This eBook from the Gutenberg Project consists of approximately 84 pages of information about Gwaith Alun.

Gwaith Alun eBook

This eBook from the Gutenberg Project consists of approximately 84 pages of information about Gwaith Alun.

HAWDDAMOR.

Englynion ar agoriad Eisteddfod Caerwys, 1823.

Nawddamor bob gradd yma,—­orwych feirdd,
      Rhowch fyrddau ’ni wledda;
   Lluman arfoll Minerfa
   Sydd uwch Caerwys ddilys dda.

Bu Caerwys, er pob corwynt—­a ’sgydwai
      Weis cedyrn eu tremynt,—­
   Er braw, anhylaw helynt,
   Nyth y gain farddoniaeth gynt.

Troi o hyd mae byd heb oedi—­a’n isel,
      Mewn oesoedd, brif drefi;
   Rhoes Groeg hen, a’i Hathen hi,
   Awr i Gaerwys ragori.

[Caerwys.  “Er braw, anhylaw helynt, Nyth y gain farddoniaeth gynt.”:  alun40.jpg]

[Un O Heolydd Caerwys.  “Rhoes Groeg hen, a’i Hathen hi,
   Awr i Gaerwys ragori.”:  alun56.jpg]

DAFYDD IONAWR.

Englyn o fawl i’r Bardd clodwiw am ei ymdrechiadau haeddbarch i ddiddyfnu yr Awen oddiwrth ffiloreg a sothach, a’i chysegru i wasanaeth rhinwedd a duwioldeb.

Yr Awen burwen gadd barch,—­unionwyd
   Gan IONAWR o’i hamharch;
Hefelydd i glaf alarch
A’i mawl yw yn ymyl arch.

GWYL DDEWI.

Penhillion a ddatganwyd yn Nghymdeithas Gymroaidd Rhuthyn, Gwyl Ddewi, 1823.

Ton,—­“Ar hyd y Nos.”

Trystio arfau tros y terfyn,
Corn yn deffro cawri y dyffryn,—­
Tanio celloedd—­gwaed yn colli,
Yn mro Rhuthyn gynt fu’n peri
I’r ael dduo ar Wyl Ddewi,
         Ar hyd y nos.

Heddyw darfu ystryw estron,
Ellyll hwyr, a chyllill hirion;
Saeson fu’n elynion inni,
Heno gwisgant genin gwisgi—­
Law-law’n dawel Wyl ein Dewi,
         Ar hyd y nos.

Clywch trwy Gymru’r beraidd gyngan
Rhwygo awyr a goroian—­
Swn telynau—­adsain llethri—­
O Blumlumon i Eryri—­
Gwalia ddywed—­’Daeth Gwyl Ddewi,’
         Ar hyd y wlad.

Felly ninnau rhoddwn fonllef
Peraidd lais ac adlais cydlef;
Rhaid i’r galon wirion oeri
Cyn’r anghofiwn wlad ein geni,
Na gwledd Awen bob Gwyl Ddewi,
         Ar hyd y wlad.

EISTEDDFOD Y WYDDGRUG.

AT MR. E. PARRY, CAERLLEON.

Wyddgrug, Awst 16eg, 1823.

Goroian! goroian!  Mr. Parry anwyl.  Bydd Callestr yn enwocaf o’r enwogion eto.  Yr ydwyf newydd ddychwelyd o ystafell y dirprwywyr yn y Leeswood Arms, lle y cydsyniodd y gwladgarol Syr Edward Llwyd i gymeryd y gadair yn ein Heisteddfod; a rhoddodd 5l. at ddwyn y draul.  Gosododd y mater o flaen yr uchel-reithwyr (grand jury) am y Sir, a thanysgrifiodd pob un o honynt bunt, gydag addaw ei noddi.  Taflodd yr Uchel-sirydd ei deir-punt at y draul, gan addunedu, er mai Sais oedd, y byddai iddo noddi athrylith gwlad ei henafiaid hyd angeu.  Dyma ddechreu yn iawn onide!  Bellach, fy nghyfaill, ni raid i chwi wrido wrth son am eich sir gynhennid.  Mae tan yn y gallestr, ac wedi ei tharaw o dde, hi a wna holl Gymru “yn brydferth goelcerth i gyd.”  Gosododd Callestr yr engraifft i holl siroedd eraill Cymru, trwy gymeryd y peth yn orchwyl y sir, yn y cyfarfod uchaf sydd ganddi.

Copyrights
Project Gutenberg
Gwaith Alun from Project Gutenberg. Public domain.