Gwaith Alun eBook

This eBook from the Gutenberg Project consists of approximately 84 pages of information about Gwaith Alun.

Gwaith Alun eBook

This eBook from the Gutenberg Project consists of approximately 84 pages of information about Gwaith Alun.

Ond Duw’r hedd o’i ryfedd rad,
Yn ’diwedd, roi wrandawiad
I’w blant,—­pan godent eu bloedd,
Dan ofid hyd y nefoedd: 
O Scio wylo, alaeth,
I’w glustiau’n ddiau a ddaeth;
A rhoes, Ior y Groes, ar gri,
Dyst eirian o’i dosturi;
D’ai’n gymorth, da borth di-baid,
Nes i ryw’r Nazareaid,
Rai marwawl, er eu muriau,
Ac erfyn eu gelyn gau.

Angylion, genadon gwynion gannoedd,
Gyrrai i’w llywiaw, y gorau lluoedd,
Rhwygent y muriau, rhoi gwynt y moroedd
I’r ddi-ofn daran, hwyl ar ddyfnderoedd,
Llu’r Proffwyd dan arswyd oedd—­pan welent,
Hwy draw a gilient i eu dirgeloedd.

Yn awr (a Duw’n ei wiriaw)
Golygwn ddwthwn a ddaw,—­
Pan deflir, lluchir i’r llawr
Ddu arfawg anghrist ddirfawr;
A phan gair, yn hoff ei gwedd,
Gaer enwawg i’r gwirionedd: 
Drwy reol gwydrau’r awen,
Draw’r llwydd a welaf drwy’r llen;—­
Llwydd oesoedd lluoedd Iesu,
Pan gant y feddiant a fu
O ddiwall wlad addewid,
Heb gaethder, llymder, na llid.

Gyrr y Dwyrain, ac oer ia diroedd
Y dwfn eira, eu di-ofn yrroedd;
Gyrr y Deau hithau ei hieithoedd,
A Gorllewin ei gorau lluoedd;
Un fwriad a niferoedd—­y fawr-blaid
O Groesadiaid, ac eres ydoedd.

Bydd ar dyrau Salem furiau,
Y banerau yn ben arwydd,
I’r tylwythau, ar eu teithiau
I le’u tadau, olud dedwydd;
Ar Fosciaid y blaid heb lwydd,—­dyrchefir
Ac eres welir y Groes hylwydd.

A thi, Roeg, a’th ddaear wych,
A’th awyr brydferth hoew-wych,
A welir eto eilwaith,
Fal gynt, er rhyfelawg waith,
Yn llwyddo’n fronlle addysg,
A lle llawn pob dawn a dysg;
Byddi, heb nam, yn fam faeth
I rinwedd—­i wroniaeth—­
I ddidwyll gelfyddydau,
Pob llwydd, a wna pawb wellhau;
I bob mad gariad gwladawl,
A fu gynt dy fwya’ gwawl.

Ac iawn adferir, gwnn, dy furiau,
Dy awen, llwynydd, dy winllanau,
Dy brif-ysgolion, dirion dyrau,
Lleoedd doethion ddynion o ddoniau;
Sparta hen, Athen hithau—­a gant lwydd,
A fydd ddedwydd o gelfyddydau.

Darlunir hyd ar lenni,
A mynnir, gwn, o’th meini
Gelfyddyd byd heb oedi;
Y dynion a adweini,
Yn rhediad eu mawrhydi,
Yn eil-oes, gwnn, a weli;
Eu cerf-ddelwau, lluniau llawn,
Fodd uniawn, a feddieni.

Llwydd, llwydd, a dawn rwydd, dan ryddid—­eto
      Iti a chalondid: 
   Yn y byd hwn, na boed tid
   Dan nefoedd yn dynn ofid.

Ond aed (ac O! nad oeded)—­lywodraeth
      Ddi-ledryw gwlad Alffred,
   A’i moliant i ymweled
   A thir y Gryw, a thrwy Gred.

Y Rhyddid sydd gyd-raddawl,—­oll hydrefn
      A llywodraeth wladawl,
   Sydd dda;—­a chyd-gerdda gwawl
   Gair yr Iesu, gwir rasawl.

A llwydd Dduw iddi, a lleoedd heddwch,
Gyrred allan o’i gaerau dywyllwch: 
I ni y mae digon yma o degwch
Gael in’, a’i hurddas, Gwalia’n ei harddwch;
Nes troi’n glynnau’n fflamau fflwch,—­a’n creigiau,
Llonned ei dyddiau’n llen a dedwyddwch.

Copyrights
Project Gutenberg
Gwaith Alun from Project Gutenberg. Public domain.