Gwaith Alun eBook

This eBook from the Gutenberg Project consists of approximately 84 pages of information about Gwaith Alun.

Gwaith Alun eBook

This eBook from the Gutenberg Project consists of approximately 84 pages of information about Gwaith Alun.

Nid oeddym ar y cyntaf yn meddwl ond am un bunt yn wobrau am y cyfansoddiadau goreu; maent yn awr wedi eu codi i bump, a disgwylir pan y cyferfydd y dirprwywyr nesaf y gellir eu hychwanegu eto.  Dyna’r pryd y llwyr benderfynir ar y testynau, yr amser, y barnwyr, a’r gwobrau; a byddaf yn sicr o anfon rhai o’r hysbysiadau argraffedig yn gyntaf oll i fy nghyfaill caredig a gwresog o Gaer, heb ddymuno mwy na’i weled yn ymgeisiwr llwyddianus.

Mi a glywais fod Mrs. Parry a’i mab yn iach galonnog.—­Dyma i chwi ychydig rigwm a gysoddais wythnos neu ddwy yn ol, ar destun a mesur can ragorach y doniol Erfyl.  Chwi a welwch wrthi mai amcan at annerch y “gwr ieuanc dieithr” ydyw, fel pe buaswn wyddfodol.

Henffych, amhrisiadwy drysor,
   Blaenffrwyth y serchiadau mad;
Ni fedd natur bleser rhagor
   Na theimladau mam a thad.

Wrth olygu’th wyneb siriol,
   Gaiff dieithr godi ei lef,
’Mhell uwchlaw syniadau bydol—­
   Erfyn it’ fendithion Nef?

Nid am gyfoeth, clod, na glendid
   Caiff fy nymuniadau fod;
Dylai deiliaid tragwyddolfyd
   Gyrchu at amgenach nod.

Boed i’th rudd sy’n awr a’i gogwydd
   At y bur dyneraidd fron,
Ddangos oedran diniweidrwydd,—­
   Gwisged bob lledneisrwydd llon.

Dy wefus sydd wrth ei chusanu
   ’N ail i rosyn teg ei liw,—­
Boed i hon yn ieuanc ddysgu
   Deisyf am fendithion Duw.

Na wna achos wylo defnyn
   O’r llygaid ’nawr mewn cwsg sy’n cloi,
Ond i dlodi dyro ddeigryn
   Os na feddi fwy i’w roi.

Dy ddwy law, sy’n awr mor dyner,
   Na bo iddynt gynnyg cam;
Ond rho ’mhleth i ddweyd dy bader
   Ac i ofyn bendith mam.

Na boed gwen dy wyneb tirion
   Byth yn gymysg gyda thrals,
Ac na chaffo brad ddichellion
   Le i lechu dan dy ais.

Na boed byth i’th draed ysgogi
   Oddiar ffordd ddaionus Duw: 
Er ei chau a drain a drysni—­
   Llwybr i’r Baradwys yw.

Boed i’th riaint fyw i’th arwain
   Gam a cham ar lwybrau gwir;
Na foed arnat ras yn angen
   Tra yma yn yr anial dir.

Yr ydwyf yn gyrru eich llyfrau yn ol, gyda’r diolchgaiwch gwresocaf am eu benthyg.  Yn y sypyn, hefyd, cewch hen ysgrif-lyfr, haws ei ddeall na’r llall:  mynnwn gyfeirio eich sylw at y “Cywydd i law merch,” ac ni chewch eich siomi.  Mae beirniaid da wedi meddwl mai llaw ysgrifen SION TUDUR ei hun ydyw y llyfr hwn, ond prin y gallaf goelio hynny.  Yn Rhuthyn y prynais i ef, am 1s. 6c.  ‘Digon o newid arno,’ meddwch chwithau.  Pe meddyliwn na byddai yn bechod anfaddeuol, gormeswn ar eich tiriondeb ymhellach, a gofynwn am fenthyg Transactions of the Cymmrodorion, yn ol gyda’r dygiedydd.  Yr ydwyf, ar ddymuniad gwr Eglwysig, yn bwriadu cyfieithu “Hanes y Cymry, o farwolaeth Llewelyn hyd eu hundeb a Lloegr.”

Maddeuwch fusgrellni fy llythyr,—­yn wir mae gorfoledd am lwyddiant ein
Heisteddfod wedi fy nghymysgu yn llwyr, fel na wn pa beth a ysgrifenais.

Copyrights
Project Gutenberg
Gwaith Alun from Project Gutenberg. Public domain.