Gwaith Alun eBook

This eBook from the Gutenberg Project consists of approximately 84 pages of information about Gwaith Alun.

Gwaith Alun eBook

This eBook from the Gutenberg Project consists of approximately 84 pages of information about Gwaith Alun.

“A’th ddoniau yn nwch, ac yn uwch dy sefyllfa,
   A’th enaid yn dan o enyniad y Nef,
Cyhoeddaist ti, Heber, yr unrhyw ddiangfa,
   Gyda’r un serch ac addfwynder ag ef;
Dyferai fel gwlith ar y rhos dy hyawdledd,
Enillai’r digred at y groes a’r gwirionedd,
Llonyddai’r gydwybod mewn nefol drugaredd;—­
   Mor chwith na chaf mwyach byth glywed dy lef.

“Doe i felynion a gwynion yn dryfrith,
   Cyfrenit elfennau danteithion y nen;
Y plant a feithrinit neshaent am dy fendith,
   A gwenent wrth deimlo dy law ar eu pen;
Doe y datgenit fod Nef i’r trallodus—­
Heddyw ffraethineb sy’ fud ar dy wefus—­
Ehedaist o’r ddaear heb wasgfa ofidus,
   I weled dy Brynwr heb gwmwl na llen. {103a}

’Fy ngwlad!  O fy ngwlad! bu ddrwg i ti’r diwrnod
   ’Raeth Heber o rwymau marwoldeb yn rhydd;
Y grechwen sy’n codi o demlau’r eulunod,
   Ac uffern yn ateb y grechwen y sydd;
Juggernaut {103b} erch barotoa’i olwynion—­
Olwynion a liwir gan gochwaed dy feibion—­
Duodd y nos—­ac i deulu Duw Sion
   Diflannodd pob gobaith am weled y dydd.”

Yn araf, fy mrawd, paid, paid anobeithio,
   Gwnai gam ag addewid gyfoethog yr IOR: 
A ddiffydd yr haul am i seren fachludo? 
   Os pallodd yr aber, a sychodd y mor? 
Na, na, fe ddaw bore bydd un Haleluia,
Yn ennyn o’r Gauts hyd gopau Himalaya, {104a}
Bydd baner yr Oen ar bob clogwyn yn India,
   O aelgerth Cashgur hyd i garth Travancore.

A hwyrach mai d’wyrion a gasglant dy ddelwau
   A fwrir i’r wadd ar bob twmpath a bryn,
Ar feddrod ein Heber i’w rhoi yn lle blodau,—­
   Ei gyfran o ysbail ddymunodd cyn hyn: 
Heber! ei enw ddeffrodd alarnadau,
Gydymaith mewn galar, rho fenthyg dy dannau,
Cymysgwn ein cerddi, cymysgwn ein dagrau,
   Os dinodd y gerdd bydd y llygad yn llyn.

Yn anterth dy lwydd, Heber, syrthiaist i’r beddrod,
   Cyn i dy goryn ddwyn un blewyn brith;
Yn nghanol dy lesni y gwywaist i’r gwaelod,
   A’th ddeilen yn ir gan y wawrddydd a’r gwlith: 
Mewn munyd newidiaist y meitr am goron,
A’r fantell esgobawl am wisg wen yn Sion,
Ac acen galarnad am hymn anfarwolion,
   A thithau gymysgaist dy hymn yn eu plith.

Llwyni Academus, {104b} cynorsaf dy lwyddiant,
   Lle gwridaist wrth glod y dysgedig a’r gwar;
Y cangau a eiliaist a droed yn adgofiant
   O alar ac alaeth i’r lluoedd a’th gar: 
Llygaid ein ieuenctid, a ddysgwyd i’th hoffi,
Wrth weled dy ardeb yn britho ffenestri
A lanwant, gan gofio fod ffrydiau Caveri
   Yn golchi dy fynwent wrth draeth Tanquebar.

Llaith oedd dy fin gan wlithoedd Castalia,
   O Helicon yfaist ym more dy oes;
Ond hoffaist wlith Hermon a ffrydiau Siloa,
   A swyn pob testynau daearol a ffoes: 
Athrylith, Athroniaeth, a dysg yr Awenau,
A blethent eu llawryf o gylch dy arleisiau;
Tithau’n ddi-fost a dderbyniaist eu cedau,
   I’w hongian yn offrwm ar drostan y Groes.

Copyrights
Project Gutenberg
Gwaith Alun from Project Gutenberg. Public domain.