Gwaith Alun eBook

This eBook from the Gutenberg Project consists of approximately 84 pages of information about Gwaith Alun.

Gwaith Alun eBook

This eBook from the Gutenberg Project consists of approximately 84 pages of information about Gwaith Alun.

Trwm wibio llygad llaith
Am danat yw fy ngwaith;
A rhodio godre’r bryn,
A gwyrddion lannau’r llyn,
Lle rhodit ti cyn hyn,
      Sior anwylaf.

Mae peraidd flodau d’ardd
Yn gwywo fel dy fardd;
A’th ddefaid hyd y ddol,
A’u gwirion wyn o’u hol
Yn gofyn ddo’i di’n ol,
      Sior anwylaf.

Mae’n Nghymru laeth a mel,
Mae’n Nghymru fron ddi-gel,
Mae’n Nghymru un yn brudd
O’th eisiau, nos a dydd,—­
A’i gair wrth farw fydd,
      Sior anwylaf.

MARWOLAETH YR ESGOB HEBER.

Lle treigla’r Caveri {101} yn donnau tryloewon,
   Rhwng glennydd lle chwardd y pomgranad a’r pin
Lle tyfa perlysiau yn llwyni teleidion,
   Lle distyll eu cangau y neithdar a’r gwin;
Eisteddai Hindoo ar lawr i alaru,
Ei ddagrau yn llif dros ei riddiau melynddu,
A’i fron braidd rhy lawn i’w dafod lefaru,
   Ymdorrai ei alaeth fel hyn dros ei fin:—­

“Fy ngwlad!  O fy ngwlad, lle gorwedd fy nhadau! 
   Ai mangre y nos fyddi byth fel yn awr? 
Y Seren a dybiais oedd Seren y borau,
   Ar nawn ei disgleirdeb a syrthiodd i lawr;
Y dwyrain a wenai, y tymor tywynnodd,
A godrau y cwmwl cadduglyd oreurodd,
Disgwyliais am haul—­ond y Seren fachludodd
   Cyn i mi weled ond cysgod y wawr.

“Fy ngwlad!  O fy ngwlad! yn ofer yr hidlwyd
   I’th fynwes fendithion rhagorach nag un,
Yn ofer ag urdd bryd a phryd y’th anrhegwyd,
   Cywreindeb i fab, a phrydferthwch i fun;
Yn ofer tywynni mewn gwedd ddigyfartal,
A blodau amryliw yn hulio dy anial,
A nentydd yn siarad ar wely o risial,
   A pbob peth yn ddwyfol ond ysbryd y dyn.

“Yn ofer y tardd trwy dy dir heb eu gofyn
   Ddillynion per anian yn fil ac yn fyrdd;
Yn ofer y gwisgwyd pob dol a phob dyffryn
   A dillad Paradwys yn wyn ac yn wyrdd;
Yn ofer rhoi awen o Nef i dy adar,
A gwythi o berl i fritho dy ddaear;
Yn ofer pob dawn tra mae bonllef a thrydar
   Yr angrhed a’i anrhaith yn llenwi dy ffyrdd.

“Dy goelgrefydd greulon wna d’ardd yn anialdir,
   Ei sylfaen yw gwaed, a gorthrymder a cham: 
Pa oergri fwrlymaidd o’r Ganges {102a} a glywir? 
   Maban a foddwyd gan grefydd y fam: 
Ond gwaddod y gwae iddi hithau ddaw heibio;
O! dacw’r nen gan y goelcerth yn rhuddo,
Ac uchel glogwyni y Malwah {102b} ’n adseinio
   Gan ddolef y weddw o ganol y fflam.

“Gobeithiais cyn hyn buasai enw Duw Israel,
   A’r aberth anfeidrol ar ael Calfari,
Yn destun pob cerddi o draeth Coromandel,
   A chonglau Bengal hyd i eithaf Tickree; {102c}
Ac onid oedd Bramah yn crynu ar ei cherbyd,
Er y pryd y bu Swartz yn cyhoeddi fod bywyd
Yn angau y groes i Baganiaid dwyreinfyd?—­
   Pan gredodd fy nhad yr hyn ddysgodd i mi. {102d}

Copyrights
Project Gutenberg
Gwaith Alun from Project Gutenberg. Public domain.