Gwaith Alun eBook

This eBook from the Gutenberg Project consists of approximately 84 pages of information about Gwaith Alun.

Gwaith Alun eBook

This eBook from the Gutenberg Project consists of approximately 84 pages of information about Gwaith Alun.

Prydain yn 429.

Hil Gomer yr amser hyn,
Oedd o nodwedd anhydyn;
Amryw nwyd wnae Gymru’n waeth,
Mawr gynnen, a Morganiaeth;
Gwyr digariad i’w goror,
Lanwai a cham, lan a chor: 
Rhai ffol yn cymysgu’r ffydd
A choelion am uchelwydd;
Gwadu Crist, neu gydio’u cred
Ar glebr am “dreiglo abred”;
Pictiaid, Ysgotiaid, weis cas,
Ruthrent, lunient alanas;
A Phrydain heb undeb oedd,
Na llyw wrth ben ei lluoedd;
Y llysoedd, yn lle iesin
Farnu gwael, oe’nt defyrn gwin;
Brad amlwg, a brwd ymladd,
Gorthrech, cri, llosgi, a lladd,
Wnae Albion,—­a’u troion trwch
Yn ail i ryw anialwch.

Taith y ddau.

Y teulu apostolaidd
Eu bron, cyn gorffwyso braidd,
Drwy’r wlad, ar waith clodadwy
Eu Tad, ymegnient hwy.

Gan foreu godi,—­rhoddi’n rhwyddion
Fyrr o Gilead wrth friwiau gwaelion;
Digyrith bleidio gwirion—­rhag gwrthdrin,
Rhoi llaeth a gwin i’r llwythau gweinion.

Cynhadledd a’r Morganiaid.

Iselaidd furiau Salem
Godent, ac urddent a gem;
A gem y ddau ddegymydd,
Fu aur a ffurf y wir ffydd;
Gemau’r gair, disglair, dwys,
Yw parwydydd Paradwys;
Er gogan, a phob anair,
Dysgent, pregethent y gair,
Nes cwnnu’r llesg gwan o’r llaid,—­
Taro’r annuw trwy’r enaid: 
Lle blin a hyll o’u blaen oedd,
Ail Eden o’u hol ydoedd;
O flaen rhain, diflannu’r oedd
Heresiau mwya’r oesoedd;
Tost iawn chwedl i genedl gam
Fu’r holiad yn Verulam: 
Ugeiniau o’r Morganiaid,
Ddynion blwng, oedd yno’n blaid: 
Llwyddai Ion y dynion da,
Er c’wilydd Agricola;
Ar air Ion, i lawr yr aeth
Muriau gweinion Morganiaeth.

Dynion oedd dan adenydd—­ystlumaidd
      Gwestl amhur goelgrefydd;
   Ymagorai’r magwrydd,
   Gwelen’ deg oleuni dydd.

Morganiaid er mawr gynnwrf,
Hwynt yn eu llid droent yn llwfr;
Yna’r dorf anwar a dig,
At y gwyr godent gerrig,—­
A mynnent bwyo ’mennydd
Y rhai ffol fu’n gwyro’r ffydd! 
Ond y graslon Garmon gu
A ataliodd y teulu: 
Bleiddan, ar hynny, bloeddiai,—­
“Clywch! eon, ry eon rai! 
Pwyllwch, arafwch rywfaint! 
Godde’ sy’n gweddu i saint;
I’n Duw y perthyn dial,—­
I’r annuw ein Duw a dal;
Par ei farn am bob rhyw fai,
Llaw dialedd lle dylai. 
Ond cafodd fodd i faddau,—­
Drwy gur un—­gall drugarhau;
Y garw boen, hyd gaerau bedd,
Agorai gell trugaredd;
A’n harch gwir, i lenwi’r wlad
Yn farn am gyfeiliornad,
Yw troi, o ras ter yr Ion,
Galonnau ein gelynion
I droedio wrth ddeddf dradoeth;
Dyn yn ddwl,—­Duw Ion yn ddoeth. 
Felly yn awr, dan wawr well,
Pob un ant tua’u pabell;
Nef uchod rhoed Naf i chwi,—­
Mewn heddwch dychwelwch chwi.”

Copyrights
Project Gutenberg
Gwaith Alun from Project Gutenberg. Public domain.