Gwaith Alun eBook

This eBook from the Gutenberg Project consists of approximately 84 pages of information about Gwaith Alun.

Gwaith Alun eBook

This eBook from the Gutenberg Project consists of approximately 84 pages of information about Gwaith Alun.
A’i dwrw ffrom—­dorri ei ffrwyn;
Ymwan Udd {47} uwch mynyddoedd,
At y Nef yn estyn oedd;
Dynoethid yna weithion,
Draw i’r dydd, odreu’r donn;
Dodwodd y cwmwl dudew
Ei genllysg i’r terfysg tew;
A’r gwyntoedd rwygent entyrch,
Neifion deifl i’r Nef yn dyrch;
Deuai nos i doi y nen,
Duai’n ebrwydd dan wybren;
Ac o’r erchyll dywyll do
Tan a mellt yn ymwylltio;
Taranent nes torwynnu
Y llynclyn diderfyn du.

Yn mysg y terfysg twrf-faith
Gwelid llong, uwch gwaelod llaith,
Yn morio yn erbyn mawr-wynt,—­
Mor yn dygyfor, a’r gwynt
Wnai’r hwyliau’n ddarnau’n ei ddig,
A’r llyw ydoedd ddrylliedig;
Mynedyddion mwyn doddynt,
Eu gwaedd a glywid drwy’r gwynt;
Llef irad a llygad lli,
Y galon ddewra’n gwelwi;
Anobaith do’i wynebau,
Ac ofn dor y gwyllt-for gau,
Gwynnodd pob gwep gan gynni,—­
Llewygent,—­crynent rhag cri
Gwylan ar ben’r hwylbren rhydd,
“Ysturmant yr ystormydd!”
A mawrwych galon morwr,
Llawn o dan, droai’n llyn dwr;
Llw fu’n hawdd, droe’n llefain O! 
A chan elwch yn wylo.

Garmon a Bleiddan.

Yn mawr swn ymrysonau
’R tro, ’roedd yno ryw ddau
Llon hedd ar eu gwedd hwy gaid,
A chanent heb ochenaid: 
Un Garmon, gelyn gormail,
A Bleiddan ddiddan oedd ail;
Gwelent drigfannau gwiwlon,
Ac iach le teg, uwchlaw tonn,—­
Lle nad oes loes, fel isod,
Nac un westl dymestl yn dod;
Eiddunent hwy Dduw anian,—­
Traethaf a gofiaf o’r gan.

“Hyd atad, ein Duw, eto,
Dyneswn, edrychwn dro;
Rhown i ti, rhwng cernau tonn,
Hael Geli, fawl o galon;
Rhued nawf, nis rhaid i ni,
Uwch ei safn, achos ofni: 
Y lli dwfr sy’n y llaw dau,—­
Dy law, ’n Ion, a’n deil ninnau.

“Ti yw arweinydd y taranau,
Tefli y sythion fellt fel saethau,—­
Gan roi, a dwyn, dy ffrwyn yn ffroenau
Anwar dymestl,—­mae’n wir diamau: 
Yng nghynnen yr elfennau—­rhoddi’r gwynt,
Gelwi gorwynt,—­neu gloi ei gaerau.

“Y mor uthr udawl, a’i dra mawr ruthriadau,
Y sydd fel moelydd uwch y cymylau;
Yr wyt ti, Ynad, ar warr y tonnau,
Yn trefnu hynt y chwerw-wynt i chwarau;
Cesgli’r gwynt chwyrn i’th ddyrnau,—­yn sydyn,
Arafa wedyn bob cynhyrfiadau.

“Pa ragor in’ for yn fedd
Na gwaun dir i gnawd orwedd? 
Cawn i’th gol o farwol fyd,
Yn nydd angeu’n hawdd ddiengyd,—­
Mae’n calon yn boddloni
I uniawn drefn Un yn Dri.”

Pan ar ben gorffen y gan
Y terfynai twrf anian;
Clywai’r Un sy’n cloriannu
Rhawd, o’r ser i’r dyfnder du: 
Arafodd, llaesodd y lli,
Trychineb, a’r trochioni;
Mor a nen ymyrrai’n ol,
I ddistawrwydd ystyriol;
Deuai hwyl a da helynt
Y donn yn gyson a’r gwynt;
Mewn un llais rhoent hymnau’n llon,
I’r hwn a roes yr hinon;
Yna y chwai dorrai dydd,—­
Dyna lan Prydain lonydd. 
Doe’r llong, ar ddiddan waneg,
I ben y daith—­Albion deg.

Copyrights
Project Gutenberg
Gwaith Alun from Project Gutenberg. Public domain.