Gwaith Alun eBook

This eBook from the Gutenberg Project consists of approximately 84 pages of information about Gwaith Alun.

Gwaith Alun eBook

This eBook from the Gutenberg Project consists of approximately 84 pages of information about Gwaith Alun.

“Pa les yw fod im’ glod glan
Am arswydo’r mawr Sawdan,—­
Pylu asteilch Palestin,
Baeddu Tyrciaid, bleiddiaid blin;
Troi Chalon wron i weryd,
Ie, curo beilch wyr y byd,—­
Os Gwalia wen,—­heb bennaeth,
A’i mawrion gwiwlon yn gaeth,—­
Heb fur prawf,—­heb farrau pres,
Na lleng o wyr, na llynges,—­
A ymheria fy mawr-rwysg,
Heb fy nghyfri’n Rhi mewn rhwysg? 
Er cweryl gyda’r cawri,
A lladd myrdd, nid llwydd i mi;
Ni fyddaf, na’m harfeddyd,
Ond gwatwor tra byddo’r byd.

“Ha! ymrwyfaf am ryfel,
O’m plaid llu o ddiafliaid ddel: 
Trowch ati’r trueni trwch,
Ellyllon! gwnewch oll allwch.

“I ti, O Angeu, heddyw y tyngaf,
Mai am ddialedd mwy y meddyliaf;
Eu holl filwyr, luyddwyr, a laddaf,
Un awr eu bywydau ni arbedaf;
Oes, gwerth, i hyn aberthaf,—­gwanu hon
Drwy ei chalon fydd fy ymdrech olaf.

Dichell Iorwerth.

“Ha! ha!  Frenin blin, i ble
Neidiodd dy siomgar nwyde? 
Oferedd, am hadledd hon,
Imi fwrw myfyrion;
Haws fydd troi moelydd, i mi,
Arw aelgerth, draw i’r weilgi,
Nac i ostwng eu cestyll,
Crog hagr, sef y creigiau hyll.

“Oni ddichon i ddichell,
Na chledd na nych, lwyddo’n well? 
Rhyw ddu fesur ddyfeisiaf,—­
Pa ystryw ddwys, gyfrwys gaf? 
Pa gais? pa ddyfais ddifeth
Gaiff y budd,—­ac a pha beth?

“’Nawr cefais a wna r cyfan,—­
Mae’r meddwl diddwl ar dan;
Fy nghalon drwy ’nwyfron naid,
A llawenydd ei llonaid;
Gwnaf Gymru uchel elwch,
I blygu, a llyfu’r llwch:—­
I wyr fy llys, pa’nd hyspyswn
Wiw eiriau teg y bwriad hwn?”

A chanu’r gloch a wnai’r Glyw,
Ei ddiddig was a ddeddyw,—­
“Fy ngwas, nac aros, dos di,
A rhed,” eb ei Fawrhydi,—­
“Galw ar fyrr fy Mreyron,
Clifford hoew, Caerloew lon;
Mortimer yn funer fo,
A Warren, un diwyro.”

Deuent, ymostyngent hwy
I’w trethawr, at y trothwy: 
O flaen gorsedd felenwawr
Safai, anerchai hwy’n awr,—­

“Cyfeillion bron eich Brenin,
A’i ategau’r blwyddau blin,—­
Galwyd chwi at eich gilydd
Am fater ar fyrder fydd;
Gwyddoch, wrth eu hagweddau,
Fod llu holl Gymru’n nacau
Ymostwng, er dim ystyr,
I’m hiau o gylch gyddfau’u gwyr;
Ni wna gair teg na garw,—­
Gwen, na bar,—­llachar, na llw,
Ennill eu serch i’m perchi,
Na’u clod i’m hawdurdod i: 
Ni fynnant Bor, cynnor cain,
Ond o honynt eu hunain;
Ganedig bendefig da,
O’u lluoedd hwy a’u llywia:—­
Ond cefais, dyfeisiais fodd,
O dan drais, i’w dwyn drosodd;
Ac i mi gwnant roddi rhaith,
Ac afraid pellach cyfraith;
Rhoi llyffeithair a gair gaf,—­
Gair Gwalia gywir goeliaf:—­
Yn rhywfodd, ni ddysgodd hon
Er lliaws, dorri llwon: 
Elinor, lawen araf,
Mewn amhorth yn gymorth gaf;
Mererid i’m Mreyron
I’w cais pur trwy’r antur hon.”

Traethai’r Brenin, gerwin, gau,
Ar redeg ei fwriadau;
A’r Cyngor wnai glodfori,
Mor ddoethwedd rhyfedd eu rhi,
A’i ddihafal rialyd,
Mewn truthiaith, gweniaith i gyd.

Copyrights
Project Gutenberg
Gwaith Alun from Project Gutenberg. Public domain.