Gwaith Alun eBook

This eBook from the Gutenberg Project consists of approximately 84 pages of information about Gwaith Alun.

Gwaith Alun eBook

This eBook from the Gutenberg Project consists of approximately 84 pages of information about Gwaith Alun.

{47} The English Channel.

{53} Hesperus, the evening star.

{101} Caveri.—­Afon yn Ngorllewin Hindostan, a lifa heibio Trichinopoly, claddfa yr Esgob Heber, ac a ymarllwysa i for Coromandel wrth Tranquebar.

{102a} Ganges—­prif afon India—­gwrthddrych addoliad y Brahminiaid.  Cyffredin ydyw i wragedd daflu eu mabanod i’w thonnau er mwyn boddio y duw Himalaya, a elwir yn Dad y Ganges.

{102b} Y Malwah.—­Rhes o fynyddoedd uchel yng nghanol Hindostan.  Nid yw cyngor na cherydd Prydeiniaid yn gallu rhwystro yr arfer greulon gynhwynol o losgi gweddwon byw gyda’u gwyr meirw.

{102c} Nid anghyffelyb Hindostan i drionglyn, Coromandel, Tickree, a Bengal, ydynt y conglau.

{102d} Tybir bod tua 40,000 o Gristionogion, ond bod mwy na’u hanner yn Babyddion, yn y Carnatic.  Nid yw prin werth crybwyll mai un o hil dyscyblion Swartz, cenadwr enwog tua chan’ mlynedd yn ol, ydyw yr Hindoo a ddychymyga yr Alarnad.

{103a} Angeu disyfyd a gymerodd Heber ymaith tra y mwynhai drochfa dwymn.  Y dydd o’r blaen—­y Sabbath—­cyflawnai ddyledswyddau ei daith esgobawl.

{103b} Juggernaut—­un o eilunod pennaf Hindostan.  Ar ei gylchwyl llusgir ef ar gert enfawr i ymweled a’i hafoty.  Ymdafla miloedd o’i addolwyr dan ei olwynion trymion, ac yno y llethir hwynt.

{104a} Gauts—­mynyddoedd uchel wrth Travancore, penrhyn deheuol.—­Himalaya, mynyddoedd uwch, wrth Cashgur, penrhyn gogleddol Hindostan.

{104b} Llwyni Academus.  Nid oes ond a wypo a ddichon ddychymygu y parch a dalwyd yn Rhydychen i Heber, ar parch a delir eto i’w enw.  Yno y daeth gyntaf i wydd yr oes drwy ei Balestine, a gyfieithwyd i’r Gymraeg mor ardaerchog gan yr unig wr cyfaddas i’r gorchwyl—­yr enwocaf Gymro, Dr. Pughe.

{105} Hodnet—­yn Amwythig—­yno y cyflawnai Heber swydd Bugail Cristionogol yn ddifefl hyd ei symudiad i India.

Copyrights
Project Gutenberg
Gwaith Alun from Project Gutenberg. Public domain.