Gwaith Alun eBook

This eBook from the Gutenberg Project consists of approximately 84 pages of information about Gwaith Alun.

Gwaith Alun eBook

This eBook from the Gutenberg Project consists of approximately 84 pages of information about Gwaith Alun.

Bu holiad cyffredin yn ddiweddar ar holl aelodau ein Coleg ni.  Aethum drwyddo yn well nag yr oeddwn i na’m hathrawon yn disgwyl.  O hyn i wyl Mihangel nesaf, rhaid imi fyned drwy ffwrn boethach nag a brofais eto,—­cael fy holi ar gyhoedd o flaen yr holl Brif-ysgol, am fy ngwybodaeth o’r Lladin a’r Roeg, a Rhesymeg.  Rhaid i mi hefyd ddysgu ysgrifeni Lladin mor rhwydd a Chymraeg.  Yr wyf yn fynych yn crynu wrth feddwl am y frawdle, yn enwedig wrth weled cynnifer a gawsant eu dwyn i fyny yn yr ysgolion goreu o’u mebyd, yn colli’r dydd.  Y mae fy mhwys yn bennaf ar y Rhagluniaeth oruchel a fu mor dyner tuay ataf hyd yn hyn.  Y’mhellach, yr wyf yn yslyried mai fy nyledswydd ataf fy hun—­at fy nghynalwyr—­ac at y plwyfolion a gaf ryw dro, hwyrach, o dan fy ngofal—­ydyw lloffa cymaint ag a allaf o wybodaeth am bob dysg a chelfyddyd.  Gwelodd y caredig Mr. Clough a Mr. Phillips fy awyddfryd am bob hyfforddiad, a chymerasant fi gyda hwynt i wrando y darlithoedd a draddodir gan ein prif ddysgedigion ar y celfyddydau breiniol.  Y diweddaf a glywais oedd yr enwog Ddoctor Buckland, areithydd ar natur y ddaear, ei chreigydd a’i meteloedd.  Pan ddeuaf adref gallaf roddi i chwi rai newyddion am weithiau glo a phlwm.  Hawdd i chwi weled fod y gofalon a’r gorchwylion hyn yn difa fy holl amser, ac nid hyn yw y cwbl.  Wrth aneddu yn Nhrefaldwyn a Rhydychen, ffurfais gydnabyddiaeth a llawer o foneddigion,—­rhai o honynt, o ran dysg a dawn, ym mhlith y gwyr enwocaf yn y deyrnas.  Nid oes boreu braidd yn myned heibio nad wyf yn derbyn llythyr o ryw gwr neu gilydd i’r wlad.  Nid oes gennyf, gyda chwareu teg, amser i ateb un o honynt; ac os bydd un gohebwr y gallaf hyderu ar ei gyfeillgarwch i beidio digio wrthyf, yr wyf yn gadael iddo aros nes elo fy helbul yn yr athrofa heibio.  Fy mwriad yn myned dros yr holl bethau hyn ydyw, i ddangos i chwi a’m hanwyl gyfeillion, Mr. Thomas Jones ac Isaac, yr unig achos na ysgrifenais atoch oll lawer cyn hyn.  Os gwelwch ddim yn yr hyn a ddywedais, yn mynegi yr anrhydedd anisgwyliadwy a ddaeth i’m rhan, gwybyddwch mai nid er mwyn cynhyrfu ymffrosl ynoch yr adroddais ef; ond yn hytrach er eich annog i uno gyda mi mewn diolchgarwch i’r Duw a fu mor dirion wrthyf.  Bydd yn dda genych glywed fy mod i ac oddeutu hanner dwsin o’m cyd-ysgolheigion wedi llwyddo i gael Cymdeithas Genadawl fechan yn ein hathrofa.  Yr ydym hefyd yn ymgyfarfod yn ystafelloedd ein gilydd, yn olynol, ar nosau Sul, i ddarllen y Bibl a gweddio.  Nos Sul diweddaf yr oeddynt oll yn fy ystafell i:  a phan byddo dadwrdd cyfeddach yn taro ar ein clustiau o ystafelloedd eraill, gallwn ddweyd, “Rhoddaist fwy llawenydd yn ein calon nag yr amser yr amlhaodd eu byd a’u gwin hwynt.”

Hyfryd iawn oedd genyf glywed am ymwared fy anwyl chwaer.  Cofiwch fi ati yn garedig, at fy mrawd, yr holl blant, ac yn enwedig at y ferch ddieithr.  Buasai dda genyf allu anfon anrheg iddi hi a’i mam, ond mae hynny yn bresenol o fy nghyrraedd.  Gadewch iddo—­mae’r galon yn llawn, os yw’r pwrs yn wag.  Byddwch gystal a rhoddi y penhillion canlynol iddi yn lle Valentine

Copyrights
Project Gutenberg
Gwaith Alun from Project Gutenberg. Public domain.