Gwaith Alun eBook

This eBook from the Gutenberg Project consists of approximately 84 pages of information about Gwaith Alun.

Gwaith Alun eBook

This eBook from the Gutenberg Project consists of approximately 84 pages of information about Gwaith Alun.

AT LENOR.

(MR. E. PARRY, CAERLLEON.)

Athrofa’r Iesu, Rhydychen, Chwefror 25ain, 1825.

Y mae yn ddywenydd mawr genyf ddeall fod eich Cymdeithas yn gwellhau yn ei hamcanion fel y mae ei gallu yn cynyddu.  Hwyrach na lwyddwch i gael cyd-ymdrechiad y Boneddion a enwasoch;—­rhai o herwydd eu hoerfel at yr achos Cymreig,—­a llawer am fod rhannau eraill o’r wlad yn galw am eu gwasanaeth yn fwy na Chaer, un ai o herwydd cymydogaeth, neu feddiannau.  Er hynny, pe na enillech ddim ond ymegniad gwresog ac unfryd trigolion eich tref eich hunain, byddai yn werth eich trafferth, a gallwch wneuthur gwyrthiau.

Y mae yr Iaith Gymraeg yn deilwng o’i choleddu, ac eneidiau Cymru yn werth eu cadw.  Chwi a gewch fy nymuniadau goreu i, os ydynt werth rhywbeth, a phe byddai gennyf well, chwi a’i caech.

Buoch yn ddedwydd iawn gael Mr. Richards yn Gapelwr,—­y mae’r gwr hwnnw yn addurn i bob Cymdeithas lle byddo.  Yr ydwyf agos yn eddigeddu y pleser a gewch ar eich Cylchwyl, ac er hynny yn ewyllysio i chwi fil mwy.  Rhaid i mi gadw gwyliau Homer ddall yn lle Dewi Sant, ac aros fel mynach yn fy nghell yn lle troedio’r heolydd i ddangos fy “nghenin,” a gadael i’m henaid lesmeirio wrth gyngan y delyn.  Ond rhaid boddloni, ac yr ydwyf yn foddlon ac yn ddiolchgar.

Yr oeddych yn ymholi pa fodd yr ydwyf yn byw yma.—­Credwch fi,—­mor syml a diniwed a Meudwy, a mor ddedwydd a Thywysog.  Cof am gartref a hen gyfeillion sydd weithiau yn cynhyrfu hiraeth ynof am wlad fy ngenedigaeth, a dyna’r unig ddefnyn chwerw sydd yn fy nghwpan.  Y mae penaethiaid yr Athrofa yn dirion i’r eithaf, a chyd-astudwyr mor gyfeillgar ag y gallwn ddymuno.

Yr oeddwn wedi bwriadu englynion i chwi a math o awdl i’ch Cymdeithas; ond hawdd i chwi feddwl nad oes gan un a ymunodd a’r Brifysgol y’mhen pum’ mis wedi cydio gyntaf mewn Ieithiadur nemawr amser i gysoddi dim.  Pa fodd bynnag, dyma ryw bethau yn llun englynion “Ar y ffolineb o wadu Iaith gynhenid,” a ddymunwn gyflwyno i’ch Cymdeithas a chwithau, i aros gwell.

A wirionwyd ar unwaith—­yr adyn
      Pan redai i estroniaith,
   I wadu’i wlad, gyda lediaith,
   Gwawdio hon, a gwadu ei hiaith?

A yw’n gywilydd gan ei galon—­iaith serch
      Iaith su ei fam radlon? 
   Ddyddiau hir, mor dda oedd hon
   I ynganu angenion?

Ai gwr yw a gar awen—­heb arddel
      Iaith beirddion disgywen? 
   Ai un am les hanes hen
   Wrthoda chwaer iaith Eden?

Iaith oedd araeth i ddewrion,—­wroniaid
      Drwy enwog ymdrechion,
   Tan eu heirf bloeddient yn hon
   “Trowch i’r gad! tr’ewch ergydion!”

Ac onis dewis y dyn—­y gyngan
      Sydd rhwng cangau’r dyffryn? 
   A gwin i’w fant? ac ni fyn
   Iaith hudoliaeth y delyn?

Onid yw iaith fyw mor fad—­yn deilwng
      O’n dilyth arddeliad? 
   Neb ond un gwrthun a’i gwad
   Neu a ludd ei choleddiad.

Copyrights
Project Gutenberg
Gwaith Alun from Project Gutenberg. Public domain.