Gwaith Alun eBook

This eBook from the Gutenberg Project consists of approximately 84 pages of information about Gwaith Alun.

Gwaith Alun eBook

This eBook from the Gutenberg Project consists of approximately 84 pages of information about Gwaith Alun.

Er mwyn yr amser gynt, fy ffrynd,
   Yr hen amser gynt;
Cawn wydriad bach cyn canu’n iach,
   Er mwyn yr amser gynt.

Yn chwareu buom lawer tro,
   A’n pennau yn y gwynt;
A phleser mawr yw cadw co
   O’r hyfryd amser gynt.

Er digwyddiadau fwy na rhi’,—­
   Er gwario llawer punt;
Er llawer coll, ni chollais i
   Mo’r cof o’r amser gynt. 
Tra cura calon yn fy mron,
   Drwy groes neu hylon hynt,
Rhed ffrydiau serch drwy’r fynwes hon
   Wrth gofio’r amser gynt.

[Yr Amser Gynt:  “Rhed ffrydiau serch drwy’r fynwes hon
   Wrth gofio’r amser gynt.”:  alun88.jpg]

I —­

Ty anwyl ferch, delw’m serch, clyw annerch clwy enaid,
Tro’ist yn ddu’r cariad cu, a chanu’n ochenaid;
A oedd un llaw drwy’r dref draw i nharaw’n anhirion? 
A oedd yn mhleth, at y peth, ddwrn yr eneth union? 
Yn wir dy wg dagrau ddwg i’r golwg o’r galon,
Oni chaf hedd af i’m bedd i orwedd yn wirion.

P’le mae’r gred, gofus ged, adduned oedd anwyl? 
Ai si a siom yr amod drom unasom ryw noswyl? 
P’le mae’r drem, fel gwawr gem, a luniem dan lwynydd? 
Torrai’n syn swyn y llyn, y delyn, a’r dolydd: 
Yn iach i’th wedd, mi wela ’medd, wan agwedd yn agor;
Dywed di, fy mun, i mi, a wyli ar fy elor?

Pan weli sail y bedd, a’r dail ar adail mor hoewdeg,
Ac uwch y tir, ysgrif hir, o’r gwir ar y garreg,—­
Mai d’achos di, greulon gri, fu’n gwelwi’r fau galon;
Ai dyma’r pryd, daw gynta’i gyd, iaith hyfryd o’th ddwyfron? 
Gorchwyl gwan rhoi llef drwy’r llan, troi’r fan yn afonydd,
Rhy hwyr serch felly, ferch, i’m llannerch bydd llonydd.

GADAEL RHIW.

Gofid dwys a wasga ’nghalon,
Adael Rhiw a’i glannau gleision,
Dolau hardd lle chwardda’r meillion,
         A chysuron fyrdd: 
Gadael mangre englyn,
Diliau mel, a’r delyn;
Gadael can gynhenid lan,
Eu cael a’u gadael gwedyn;
Gadael man na sangodd achwyn;
Ond er gadael ceinciau’i gorllwyn,—­
Yng ngauaf oes fe saif Trefaldwyn,
         Ar fy nghof yn wyrdd.

Trwm, rhy drwn, rhoi ymadawiad
A bro na welir cuwch ar lygad,
Na diffyg ar ei haul na’i lleuad,
         I ddylu blodau fyrdd;
Troi i sych Rhydychen,
O Bowys, hen bau Awen,
Lletty hedd, a bwrdd y wledd,
Lle’r adsain bryn a chrechwen: 
Gadael llon athrawon gwiwfwyn
Och! ni wn pa fodd i gychwyn. &c.

Try yr ymadawiad ysol,
Nwyf i loesau anfelusol,
Ond pa’m beiaf rhagluninethol
         Anorffennol ffyrdd
Dyma law ’madawiad,
A’r llall mi sychaf lygad;
Mae’r fen gerllaw, i’m cludo draw,—­
Ofer—­ofer siarad;
Yn iach bob dengar gwm a chlogwyn,—­
Yn iach, yn iach, gyfeillion addfwyn. &c.

RHYDYCHEN.

Copyrights
Project Gutenberg
Gwaith Alun from Project Gutenberg. Public domain.