Gwaith Alun eBook

This eBook from the Gutenberg Project consists of approximately 84 pages of information about Gwaith Alun.

Gwaith Alun eBook

This eBook from the Gutenberg Project consists of approximately 84 pages of information about Gwaith Alun.
“Y Duw a barai fod aberoedd
O sawr diliau, mewn cras ardaloedd,
I gynnal ei blant gannoedd,—­a dwfr fal
Gwawr y grisial o graig yr oesoedd,
Ac a lywiai Iago a’i luoedd
Mawr a difraw, rhwng muriau dyfroedd,—­
A Pharaoh a’i anhoff yrroedd—­wnai gau
O fewn dorau y gorddyfnderoedd;
Y Duw hwnnw gyfyd hinon
Awyr dawel, o oriau duon,
Dilai gwared ei deulu gwirion
Rhag galanas a rhwyg gelynion;
Y Duw fu’n blaid Gedeon, rwystra i yrr
Yr un o’r Brithwyr wanu’r Brython.”

Trwy galon Rhufon yr aeth
Cywir donau crediniaeth;
Distawodd, lleddfodd y llu,
Eu gwelw wawr a’u galaru;
Heb ddal ynni, boddlonynt
I weision Ior hwylio’r hynt.

Hwy roddent gyfarwyddyd
Am hwyl y gorchwyl i gyd.

Ag ysgafn droed i goed gwydd,
Encilient dan y celydd;
Rhufon hoff, er mwyn cloff, claf,
Anwylaidd, safai’n olaf;
A thawel gynorthwyai
Y gweinion efryddion rai.

Yn ol dod dan gysgod gwig
I gyd, ar lawr y goedwig,
Plygent lin, ac a min mel
Yn ddwys mewn gweddi isel: 
Yn ysbaid hyn, os bai twrf,
Ochenaid lesg, a chynnwrf,—­
Codai Garmon lon ei law,
Agwedd Ust! ac oedd ddistaw.

Er gwersi, er gweddi’r gwyr,
Er teg osteg, ac ystyr,—­
Gwael agwedd y golygon
Ddwedai fraw y ddiwad fron.

Ar hyn, dyna’n syn neshau
Athrist dwrf, a thrwst arfau;
Lwyrnych estronawl oernad,
Croch gri, a gwaeddi,—­“I’r gad";—­
Yr waedd oedd yn arwyddaw
Fod galon llymion gerllaw: 

Yna y treigl swn eu traed,
Yn frau o fewn cyrrau’r coed,—­
Lleng a’u gwich am ollwng gwaed
Gwyr o ryw hawddgara ’rioed.

Adeg alarus ydoedd,
Ac awr heb ei thebyg oedd;
Awr gerth, na ddileir o go’,
Ac awr calonnau’n curo;
Y goch ffriw aeth a’i lliw’n llwyd,
Dewr wedd ae’n orsedd arswyd.

Trwy’r ddol y gelynol lu,
Groch anwar, wnai grechwenu,
Er dannod gwarth Prydeinwyr,—­
(Rhy fuan gogan y gwyr.)

Gan ymnerth, ac un amnaid,
Yn llu yn awr, oll ’e naid
Y Brython,—­yn llon eu llef,
Unllais, ac adlais cydlef,
Germain oedd, rho’i Garmon air,
Addasol ei ddewisair,—­

Haleluia!  Haleluia! lawen,
Ar y gair, ebrwydd y rhwygai’r wybren,
Creigiau,—­a chwedi pob crug a choeden
Yn y dyspeidiad oedd yn d’aspeden;
A’r engyl yn yr angen—­yn uno,—­
A gawriai yno holl gor y wiw-nen.

Chwai hyrddiwyd galon chwerw-ddull,
Dychrynnent, ffoent mewn ffull.

“Frithwyr ffel! beth yw’r helynt? 
Dewch i gad,—­ymffrostiech gynt! 
Hai! ffwrdd! codwch waewffyn,
Hwi’n golofn,—­dacw’n gelyn! 
Ymrestrwch,—­troediwch mewn trefn,
Och! enrhaith! beth yw’ch anrhefn?”

Unwaith ni wrendy’r annuw,
I’w dilyn mae dychryn Duw;
Eu heirf serth, yn y twrf sydd,
Wana galon eu gilydd;—­
Astalch i astalch estyn,
A chledd sydd yng ngledd y’nglyn.

Copyrights
Project Gutenberg
Gwaith Alun from Project Gutenberg. Public domain.