Gwaith Alun eBook

This eBook from the Gutenberg Project consists of approximately 84 pages of information about Gwaith Alun.

Gwaith Alun eBook

This eBook from the Gutenberg Project consists of approximately 84 pages of information about Gwaith Alun.

Ond Distawrwydd wnaeth ei phabell
   Lle cartrefai’r anthem gynt;
Nid oes yma, o gor i gangell,
   Un erddygan, ond y gwynt.—­
Felly darffo pob coel-grefydd,
   Crymed byd ger bron y Gwir;
Hedd a chariad, ar eu cynnydd,
   Fo’n teyrnasu tros y tir.

CAN GWRAIG Y PYSGOTWR.

Gorffwys donn, dylifa’n llonydd,
Paid a digio wrth y creigydd;
Y mae anian yn noswylio,
Pa’m y byddi di yn effro? 
Dwndwr daear sydd yn darfod,—­
Cysga dithau ar dy dywod.

Gorffwys for! mae ar dy lasdon
Un yn dwyn serchiadau ’nghalon;
Nid ei ran yw bywyd segur,
Ar dy lifiant mae ei lafur;
Bydd dda wrtho, for diddarfod,
Cysga’n dawel ar dy dywod.

Paid a grwgnach, bydd yn ddiddig,
Dyro ffrwyn ym mhen dy gesig;
A pha esgus iti ffromi? 
Nid oes gwynt ym mrig y llwyni: 
Tyrd a bad fy ngwr i’r diddos
Cyn cysgodion dwfn y ceunos.

Iawn i wraig yw teimlo pryder
Pan bo’i gwr ar gefn y dyfnder;
Ond os cyffry dig dy donnau,
Pwy a ddirnad ei theimladau? 
O bydd dirion wrth fy mhriod,—­
Cysga’n dawel ar dy dywod.

Byddar ydwyt i fy ymbil,
For didostur, ddofn dy grombil;
Trof at Un a all dy farchog
Pan bo’th donnau yn gynddeiriog;
Cymer Ef fy ngwr i’w gysgod,
A gwna di’n dawel ar dy dywod.

[Gwraig y Pysgotwr.  “Gorffwys for, mae ar dy lasdon Un yn dwyn serchiadau ’nghalon.”:  alun105.jpg]

Y DDEILEN GRIN

Sech yw’r ddeilen ar y brigyn,
Buan iawn i’r llaid y disgyn;
Ond y meddwl call a ddarllen
Wers o addysg ar y ddeilen.

Unwaith chwarddodd mewn gwyrddlesni,
Gwawr y nef orftwysodd arni;
Gyda myrddiwn o gyfeillion,
Dawnsiodd yn yr hwyr awelon.

Darfu’r urdd oedd arni gynnau,
Prin y deil dan wlith y borau,
Cryna rhag y chwa ireiddlon
Sydd yn angeu i’w chyfoedion.

Ni all haul er ymbelydru,
Na llawn lloer er ei hariannu,
Ac ni all yr awel dyner
Alw yn ol ei hen ireidd-der.

Blaguro ychydig oedd ei chyfran,
Rhoi un wen ar wyneb anian;
Llef o’r nef yn Hydref waedda—­
Darfu’th waith,”—­a hithau drenga.

Footnotes: 

{1a} O wawl-arluniau gan y diweddar John Thomas.

{1b} O wawl-arluniau gan y diweddar John Thomas.

{1c} O wawl-arluniau gan y diweddar John Thomas.

{1d} O wawl-arluniau gan y diweddar John Thomas.

{26} Cyfeiriad at farwolaeth echrydus Iorwerth II.  Cym. The Bard, Gray.

{27} Man y llofruddiwyd llawer o hil Edward.

{28} Harri VII., buddugwr Bosworth.

{33} Yr arwyddair dan Loer arian y Twrc yw,—­“Nes llenwi hol ddaear.”

{45a} Flodden Field, by Sir Walter Scott.

{45b} Siege of Corinth, by Lord Byron; and Siege of Valencia, by Mrs. Hemans.

Copyrights
Project Gutenberg
Gwaith Alun from Project Gutenberg. Public domain.