Gwaith Alun eBook

This eBook from the Gutenberg Project consists of approximately 84 pages of information about Gwaith Alun.

Gwaith Alun eBook

This eBook from the Gutenberg Project consists of approximately 84 pages of information about Gwaith Alun.

Pan oedd byd yn agor ei byrth i dy dderbyn,
   Gan addaw pob mwyniant os unit ag ef,—­
Cofleidiaist y Groes, a chyfrifaist yn elyn
   Bob meddwl a geisiai fynd rhyngot a’r nef: 
Yn Hodnet {105} yn hir saif dy enw ar galonnau
Y diriaid ddychwelwyd yn saint trwy’th bregethau—­
Amddifad gadd borth yn dy briod a thithau—­
   Y weddw a noddaist—­y wan wneist yn gref.

Gadewaist a’th garant—­yn ysbryd Cenadwr
   Y nofiaist tros donnau trochionog y mor,
I ddatgan fod Iesu yn berffaith Waredwr
   I Vahmond Delhi, ac i Frahmin Mysore;
Daeth bywyd ac adnerth i Eglwys y Dwyrain—­
Offrymwyd ar allor Duw Israel a Phrydain—­
Yn nagrau a galar Hindoo gallwn ddarllain
   Na sengaist ti India heb gwmni dy IOR.

O Gor Trichinopoly, cadw di’n ddiogel
   Weddillion y Sant i fwynhau melus hun,
Pan ferwo y weilgi ar lan Coromandel,
   Gofynnir adfeilion ei babell bob un;—­
Ond tawed ein pruddgerdd am bennill melusach,
A ganodd ein Heber ar dannau siriolach,
Yn arwyl y Bardd a pha odlau cymhwysach
   Dilynir ei elor na’i odlau ei hun?

“Diangaist i’r bedd—­ni alarwn am danad,
   Er mai trigfa galar a niwl ydyw’r bedd;
Agorwyd ei ddorau o’r blaen gan dy Geidwad,
   A’i gariad gwna’r ddunos yn ddiwrnod o hedd. 
Diangaist i’r bedd—­ac ni welwn di mwyach
Yn dringo rhiw bywyd trwy ludded a phoen: 
Ond breichiau rhad ras a’th gofleidiant ti bellach,
   Daeth gobaith i’r euog pan drengodd yr Oen.

“Diangaist i’r bedd—­ac wrth adael marwoldeb
   Rhwng hyder ac ofn, os unwaith petrusaist,
Dy lygaid agorwyd yn nydd tragwyddoldeb,
   Ac angel a ganodd yr Anthem a glywaist. 
Diangaist i’r bedd—­byddai’n bechod galaru,
At Dduw y diangaist—­y Duw a dy roes: 
Efe a’th gymerodd—­Efe wna’th adferu
   Digolyn yw angau trwy angau y groes.”

* * * * *

Cyfieithiad yw’r ddau bennill olaf o emyn Heber ei hun,—­

“Thou art gone to the grave, but we will not deplore thee, Though sadness and sorrow encompass the tomb.”

SEREN BETHLEHEM.

(Cyfieithiad o Saesoneg H. K. White.)

Pan bo ser anhraethol nifer
   Yn britho tywyll lenni’r nen,
At un yn unig drwy’r eangder
   Y tal i’r euog godi ei ben;
Clywch!  Hosanna’n felus ddwndwr
   Red i Dduw o em i em,
Ond un sy’n datgan y Gwaredwr,
   Honno yw Seren Bethlehem.

Unwaith hwyliais ar y cefnfor
   A’r ’storm yn gerth, a’r nos yn ddu,
Minnau heb na llyw, nac angor,
   Na gwawr, na gobaith o un tu,
Nerth a dyfais wedi gorffen,
   Dim ond soddi yn fy nhrem,
Ar fy ing y cododd seren,
   Seren nefol Bethlehem.

Bu’n llusern a thywysydd imi,
   Lladdodd ofn y dyfrllyd fedd,
Ac o erchyll safn y weilgi
   Dug fi i borthladd dwyfol hedd;—­
Mae’n awr yn deg, a minnau’n canu,
   F’achub o’r ystorom lem,
A chanaf pan bo’r byd yn ffaglu
   Seren!  Seren!  Bethlehem!

Copyrights
Project Gutenberg
Gwaith Alun from Project Gutenberg. Public domain.