Gwaith Alun eBook

This eBook from the Gutenberg Project consists of approximately 84 pages of information about Gwaith Alun.

Gwaith Alun eBook

This eBook from the Gutenberg Project consists of approximately 84 pages of information about Gwaith Alun.

“Ni foddir (mae’n rhyfeddol)—­chwai angau,
      A chyngor dymunol;
   Er wban, griddfan greddfol,
   (Uthr in’ yw!) ni thry yn ol.

Er gwaedd mam,—­er gweddi myrdd,
      Er gwen byd,—­er gwyneb hardd,
   Er swn cwyn,—­er seinio cerdd,
   Er ing ffull, mynn angau’i ffordd.

Ni eiriach rai bach rhag bedd,—­i’r cedyrn
      Rhoir codwn i’r dyfn-fedd;
   A mirain feibion mawredd
   Ostyngir, siglir o’u sedd.

I’r llaid yr aeth fy nhaidiau,—­i huno,
      Fu’n heinyf er’s dyddiau: 
   I’r ystafell dywell dau,
   Ryw funud, yr af innau.

Ond cael nod hynod, a hedd—­yr Iesu,
      A drws i dangnefedd;
   Yn dawel yn y diwedd,
   Af i gaban bychan bedd.

CYMDEITHAS GYMREIGYDDOL CAERLLEON.

Boed llwydd, mewn pob dull addas,—­a chynnydd
      I’ch enwog Gymdeithas;
   Heb stwr, na chynnwr, na chas—­
   Geni beirdd heirdd fo’i hurddas.

Bu gannoedd drwy bob gweniaith,—­addefent,
      Am ddifa’r Omeriaith;
   Aent hwy i lawr i fynwent laith—­
   I fyny safai’r fwyn-iaith.

Heddyw gwelaf na faidd gelyn—­er gwyn,
      Roi gair yn ei herbyn;
   A dolef gref sy’n dilyn,
   “A lwyddo Duw, ni ludd dyn.”

Cur llawer fu Caerlleon,—­y gw’radwydd
      Sy’n gwrido hanesion;
   Am groesi’r Clawdd hir i hon,
   Brethid calonnau Brython.

’Nawr Cymry gant wisgant wen,
      Chwarddu gant a cherddi gwin,
   Ceir bri, a chwmni, a chan,
   O fewn Caer heb ofn y cwn.

Byw undeb, gyda bendith,—­a daenir
      O’ch doniawl athrylith: 
   Gelyn breg, rhwyg rheg rhagrith
   I chwerwi’ch plaid, na chaer i’ch plith.

DAU ENGLYN

Ar Briodas Mr. P. Williams a Miss Whitley, Broncoed.

Gan Naf eiddunaf i’r ddau—­bob undeb,
      A bendith, a grasau,
   I fyw’n hir, ac i fwynhau
   Dedwyddwch hyd eu dyddiau.

Eirchion y gwaelion heb gelu,—­pur rad
      Parhaus fo’n defnynnu: 
   Pob urddawl ollawl allu
   Iddyn’ ddel—­medd Ioan Ddu.

Tach., 1812

GENEDIGAETH IORWERTH II.

Llais llid Iorwerth.

Clywch! clywch! ar hyd lannau Clwyd
Ryw swn oersyn o arswyd! 
Gorthaw’r donn, cerdda’n llonydd,
Ust! y ffrwd,—­pa sibrwd sydd? 
O Ruddlan daw’r ireiddlef
Ar ael groch yr awel gref;
Geiriau yr euog Iorwerth,
O ’stafell y Castell certh;
Bryd a chorff yn ddiorffwys,—­
Hunan-ymddiddan yn ddwys: 
Clywch, o’r llys mewn dyrys don,
Draw’n sisial deyrn y Saeson,—­
“Pa uffernol gamp ffyrnig? 
A pha ryw aidd dewraidd dig? 
Pa wrolwymp rialyd
Sy’n greddfu trwy Gymru ’gyd? 
Bloeddiant, a llefant rhag llid,
Gawrwaeddant am deg ryddid,—­
’Doed chwerwder, blinder, i blaid
Ystryw anwar estroniaid;
Ein gwlad, a’n ffel wehelyth,—­
Hyd Nef,’ yw eu bonllef byth;
Ac adsain main y mynydd,—­
Och o’u swn!—­yn gasach sydd;
‘Ein gwlad lan amhrisiadwy,’
Er neb, yw eu hateb hwy.

Copyrights
Project Gutenberg
Gwaith Alun from Project Gutenberg. Public domain.