Gwaith Alun eBook

This eBook from the Gutenberg Project consists of approximately 84 pages of information about Gwaith Alun.

Gwaith Alun eBook

This eBook from the Gutenberg Project consists of approximately 84 pages of information about Gwaith Alun.

Henffych, ferch, i fyd o ofid,
   Byd y dagrau, byd y groes: 
Agoraist lygad ar yr adfyd,
   Ti gei flinder os cei oes. 
Mae gwlad well tu draw i’r afon,—­
   Nes cael glan ar oror iach,
Rhag pob drwg, y Duw sy’n Sion,
   Fo’n dy noddi, Marged bach.

Mae’m dychymyg fel yn gwrando
   P’un a glywaf mo dy sain,—­
Gan holi’r awel sy’n mynd beibio,
   A yw’th wyneb fel dy nain? 
A oes eurwallt ar dy goryn? 
   A oes rhosyn ar dy rudd? 
A pha dybiau sydd yn dirwyn
   Drwy’th freuddwydion nos a dydd?

Pe bawn yna, anwyl faban,
   Mi’th gofleidiwn gyda serch;
Ceit fy mendith am dy gusan,
   Mi’th gyfrifwn fel fy merch: 
Ac os try Rhaglumaeth olwyn
   Fyth i’m dwyn i dir fy ngwlad,
Ti gei weled y gall rhywun
   Garu ei nithoedd megis tad.

Yr wyf yn gyrru —–­ i Ruth:  mae yn rhy fychan, ond y gwir yw hyn,—­hyd wyl Mihangel nesaf byddaf yn llwm iawn o arian; wedi hynny, caf dderbyn swm ychwanegol yn y flwyddyn.  Yna mi ofalaf am dalu eich rhent, eich tir pytatws, a phesgi’r mochyn.  Rhoddwch ddillad da am Ruth . . .  Unwaith eto, yr wyf yn eich tynghedu, na oddefwch eisiau dim.  Gyda bendith, nid oes perygl na allaf ei dalu yn ol ar ei ganfed.  Pa beth ydyw gwaith fy nhad?  A ydyw’n esmwyth?  Cofiwch fi yn garedig at deulu Broncoed, a rhoddwch fy serch at fy hen gyfeillion oll . . .  Mae amser a phapur wedi pallu, y gloch yn taro pedwar yn y borau—­a’r ganwyll yn llosgi i’r ganwyllbren—­ni chaf ond dywedyd fy mod yn aros,

Eich dyledog fab,
J. BLACKWELL.

CYWYDD Y GWAHAWDD: 

A anfonwyd mewn llythyr o wnhoddiad Medi 6ed, 1826, oddiwrth Ifor Ceri, at Wilym Aled a’i Gywely.

Eto, Aled, atolwg
Gad si’r dre’, a mangre mwg;
Gad Saeson, gwawd, a sisial
Arian, a thincian, a thal;
Gad wbwb a gwau diball
Mammon i feibion y fall: 
Rho i’th law,—­pryd noswyliaw sydd,
Eleni un awr lonydd;
Gwamal i ti ogymaint
Hela myrdd, a holi maint
Ydyw gwerth yr indigo,
A ffwgws, heb ddiffygio,
Gan na cheir gennych hwyrach
Weled byth un Aled bach,
Na geneth, a drin geiniog
O dyrrau llawn dy aur llog. 
O fewn llong tyrd tros gefn llwyd
Y Mersey, heb ddim arswyd,—­
A’th gymar sydd werth gemau
Prysurwch, deuwch eich dau
I Geri, fan hawddgaraf,
Man gwar, lle mae hwya’r haf: 
Mor loewlon y mae’r lili
A’r rhos yn eich aros chwi,
A phleth rydd yr adar fflwch,
Hyd awyr, pan y deuwch;
Cewch eich dau wenau uniawn
Ifor a Nest, fore a nawn: 
(Yma diolch raid imi
“Amen dywed gyda mi,”
Ddwyn Ifor, gan Dduw nefol,
A’i wiw Nest, i Geri’n ol:)
At un Nest dda west, ddiwall,
Tyred a dy Nest arall;
Braint cyn bedd, cael medd a maeth
Maesaleg un mis helaeth;
Y mae sylwedd Maesaleg,
A’i dor, yn y Geri deg.

Copyrights
Project Gutenberg
Gwaith Alun from Project Gutenberg. Public domain.