Gwaith Alun eBook

This eBook from the Gutenberg Project consists of approximately 84 pages of information about Gwaith Alun.

Gwaith Alun eBook

This eBook from the Gutenberg Project consists of approximately 84 pages of information about Gwaith Alun.

Y mae doethaf gymdeithion—­Cymroaidd,
      Ac amryw o’r Saeson—­
   Y’Ngwalia mae angylion
   Gyda’u heirf am gadw hon.

A cheir yn pleidio ei choron—­euraidd
      Iorwerth a’i gyfeillion,
   A gwr mawr o gyrrau Mon
   Yn Llywydd yn Nghaerlleon.

Mwy addas i was isel—­a’i osgedd
      Am esgyn yn uchel,
   Garu ei iaith, a’r gwr wel
   Werth ei hurdd wrth ei harddel.

O’i gwrthod, gwawd ac erthwch,—­a’i dilyn
      Hyd elor drwy dristwch;
   Ni cha lin goruwch ei lwch,
   O glod goreu gwladgarwch.

Boed gan Gymro ym mhob broydd—­o’i brif-iaith
      Bur fost yn lle c’wilydd,
   Fel na ddel, tra y del dydd,
   Lediaith ar ein haelwydydd.

TELYN CYMRU.

Allan o Saesoneg Mrs. Hemans, i Gymdeithas Gymreigyddol Rhuthyn, 1824.

O delyn oesol! dyro eto gainc,
   Fel pan ewynai’r hirlas yn y wledd;
Pan gurai bronnau gan wladgarol ainc,
   Pan wlychid byrddau Owain gan y medd: 
O Delyn! deffro ’ngrym yr oesoedd hen,
Adleisia’r bryn dy geinciau gyda gwen.

Dy dant ni’s tyr—­Rhufeinydd erchyll don
   Ddaeth dros las ddyfroedd, gyda llawer rhwyf,
Enynai fflam trwy dderi sanctaidd Mon,
   A gwnai gromlechau’n garnedd yn ei nwyf,
Rhoi lwch y creiriau gyd a’r gwynt a’r lli’,
Delyn, rho gainc, nis gallai d’atal di.

Dy dant ni’s torrir.  Chwyfiodd baner Sais
   Yn ddig ar awel flith Eryri gerth,
Uwch bloedd ei udgyrn, clywid swn dy lais,
   Pan guchiai’i gestyll ar y clogwyn serth,
Cynhyrfai’th don y dewrion i fwy bri,
Eu llethri oedd ganddynt, bronnau rhydd, a thi

Oes ddu oedd hon; pan gwympai’r glew dirus,
   Pan dyfai chwyn gylch bwrdd lle gwleddodd cant,
Pan lechai’r llwynog yn y drylliawg lys,
   Oedd nerth i ti’r pryd hyn—­dawn ym mhob tant,
Yn nyddiau hedd dy geinciau grymus gyr,
O Delyn ber! o’th dannau un ni’s tyr.

AT EI RIENI.

Athrofa’r Iesu, Rhydychen, Chwefror, 11fed, 1826.

ANWYL RIENI,

Yn lle esgus dros fod yn ddistaw cyhyd, rhoddaf i chwi hanes byr o’r modd yr ydwyf yn byw.  Wrth ymdrechu dyfod i fyny gyda y rhai a gawsant bob mantais ysgolheigaidd ym moreu eu hoes, yr wyf yn gorfod bod yn ddiwyd iawn wrth fy llyfrau.  Nid ydyw treiddio i mewn i ieithoedd ond gorchwyl sych a diffrwyth, ac i un yn fy sefyllfa i, o ran gwall cyfleusterau boreuol, y mae yn waith digon caled.  Am y tro cyntaf yn fy mywyd, yr wyf yn cael fod “darllen llawer yn flinder i’r cnawd.”  Nid ydyw caethiwo fy hun i fyfyrdod wedi cael un effaith ddrwg ar fy iechyd eto.  Aeth cyfaill i mi, a ddarllenasai lawer llai na mi, adref ddoe wedi ei nychu gan ormod o waith.  Y mae fy nghorff yn gadarn wrth natur, ond yr wyf yn gorfod cerdded allan rywfaint bob dydd, er mwyn ei gadw mewn trefn.

Copyrights
Project Gutenberg
Gwaith Alun from Project Gutenberg. Public domain.