Gwaith Alun eBook

This eBook from the Gutenberg Project consists of approximately 84 pages of information about Gwaith Alun.

Gwaith Alun eBook

This eBook from the Gutenberg Project consists of approximately 84 pages of information about Gwaith Alun.

AT GYFAILL.

Athrofa’r Iesu, Rhydychen, Rhagfyr 19, 1824.

Gobeithio eich bod yn myned y’mlaen gyda Lladin.  Ni wyddoch pa beth a all esgor.  Gallaf addaw y cewch fwy o bleser na thrafferth yn dysgu; a gwn na byddai yn boen i’ch meddwl llym chwi dreiddio iddi ar amnaid.  Mi a ddatguddiaf i chwi fy amcan wrth eich cynghori fel hyn.  Os gallwch, trwy eich llafur eich hun, ymhyfforddi yn yr ieithoedd dysgedig,—­os addunedwch beidio croesi trothwy tafarn yn y Wyddgrug,—­os peidiwch a chyfeillachu a neb ond dynion parchus, a phrin a rhai’ny,—­os byddwch ddyfal yn eich sefyllfa,—­os gyrrwch ambell i ddernyn i’r Eisteddfodau, er mwyn tynnu sylw,—­os ymddygwch bob amser yn syml, cyson, a gostyngedig,—­ac os, gyda hyn oll, y llwyddwch i dynnu cyfeillgarwch y goreu o ddynion, Mr. Clough—­meddyliwn na byddai yn anhawdd nac yn dreulfawr i chwi gael trwydded yma.  Y mae eich synwyr yn ormod i adeiladu dim ar hyn, nac i yngan gair yn ei gylch i gyfaill eich mynwes.  Pa beth a all cardotyn fel fi ei addaw?

Byddai yn dda gennyf pe rhoddech ddiofryd cadarn na sangech ar lawr unrhyw dafarndy yn y Wyddgrug byth.  Y mae fy mynwes i yn gwaedu heddyw gan y clwyfau a dderbyniais ynddynt.  Ni welais gyfaill da o fewn eu muriau erioed, ac ni welais un niweidiol iawn y tu allan.  Ni wna ymddygiad isel a buchedd rinweddus a duwiol eich amddifadu o unrhyw bleser teilwng o’r enw:  yn hytrach gwna i’ch cwpan redeg trosodd—­addurna chwi ger bron eich gwlad—­a thywysa chwi at ffynnon a arllwys ei dwfr pan y bydd Alyn, a Helicon hefyd, wedi sychu.  Hyderaf na ddigiwch am yr hyfder a gymerais.  Gwiriaf i chwi iddynt ddylifo oddiar deimlad mor bur ag a gurodd erioed ym mynwes tad.  Gwn eich bod yn agored i lawer o demtasiynau, y rhai a gynyddant po fwyaf y deloch i sylw y byd.  Gwn, hefyd, fod eich cysur amserol a thragwyddol yn ymddibynnu ar eu gorchfygu.  Gwyddoch chwithau fod rhan fawr o fy nghysur innau ynglyn wrthych fel cyfaill fy ieuenctyd.  Bellach, ai gormod im’ am unwaith ddringo Ebal?  Do, fy nghyfaill, cefais i wybod trwy brofiad trist fod deniadau cyfeddach yn llymach na saethau cawr, ac yn chwerwach na marwor meryw.  Mi syrthiais i ymhlith y lladdedigion.  Tybiodd fy nghyfeillion ddarfod am danaf byth, a gadawsent fi i’m tynged.  Ond, trwy y moddion rhyfeddaf, dywedodd y Gwr y rhyfelais yn ei erbyn, “yn dy waed bydd fyw.”  Cefais yn barod lawer prawf o’i diriondeb; ac nid ydwyf yn cwbl anobeithio cael, o radd i radd, fy nerbyn i’w fyddin ac i gludo ei faner.  Hyd yn hyn, y mae fy mriwiau yn rhwystro imi gydio mewn arf; ac yr ydwyf yn treulio fy oes gan y mwyaf wrth odreu Sion; ac weithiau, wrth godi’m llaw at ddail y pren sydd yn iachau’r cenhedloedd, dymunwn amneidio a’r llall at fy nghyfeillion, i beri iddynt ochel y llannerch lle y derbyniais i y saeth a lynodd yn fy nghalon.

COLLEGE LIFE

TO THE REV.  C. B. CLOUGH, MOLD.

Copyrights
Project Gutenberg
Gwaith Alun from Project Gutenberg. Public domain.