Gwaith Alun eBook

This eBook from the Gutenberg Project consists of approximately 84 pages of information about Gwaith Alun.

Gwaith Alun eBook

This eBook from the Gutenberg Project consists of approximately 84 pages of information about Gwaith Alun.

Dyspaidiad, in the intermission.

Eiriach, cynhilo

Elwch, llawenydd, gorfoledd.

Enrhaith, fellows.

Ffladr, caruaidd, taer wenieithus, anwyl.

Fflwch, llawn; buan.

Galon, gelynion.

Germain, shout.

Gofynaig, cais.

Gorthaw, distawrwydd, amynedd.

Gwawrwalch, a valiant man, a hero.

Graid, fire, urgency.

Gryw, Greek.

Gwaladr, tywysog, rheolwr.

Gyrr, attack, onset.

Hadledd, dirywiad, dinistr.

Heng, gwth, taith orfod.

Hirell, gleams of light.

Huddug, tywyll, trist.

Hwi’n golofn, form into a column.

Loes gwefrawl, electrical shock.

Lleuai, read.

Main, meini.

Mwd, tan y to, nenfwd.

Nwyfre, awyr, nef.

Rhialyd, natur, greddf.

Rhom, rhyngom.

Sarllach, bost, bloddest.

Sawdan, Soldan, Sultan.

Sitwyr, rangers, freebooters.

ALUN.

[Ym Mhonterwyl, Ger Y Wyddgrug:  alun8.jpg]

“IDDO EF.”

Dat. i. 5.

’Does testun gwiw i’m can
Ond cariad f’ Arglwydd glan
      A’i farwol glwy;
Griddfanau Calfari,
Ac angau Iesu cu,
Yw nghan a mywyd i,
      Hosanna mwy.

Paham bu i ddeddf y net
Ymaflyd ynddo EF,
      A rhoi iddo glwy? 
Fe roddwyd yn y drefn,
Fy meiau ar ei gefn;
Pwy na roi floedd drachefn—­
      Hosanna mwy.

Ergydiwyd ato EF,
Gan uffern, byd, a nef,
      Eu saethau hwy: 
Arhodd ei fwa’n gry’,
Nes maeddu uffern ddu,
A phrynu mywyd i,
      Hosanna mwy.

Caniadau’r nefol gor,
Sydd oll i’m Harglwydd Ior
      A’i ddwyfol glwy;
Y frwydr wedi troi,
Ellyllon wedi ffoi,—­
Sy’n gwneyd i’r dyrfa roi
     Hosanna mwy.

O faint ei gariad EF! 
Nis gall holl ddoniau’r nef,
      Ei dreiddio drwy: 
Mae hyn i mi’n beth syn,
I ruddfan pen y bryn
Droi’n gan i mi fel hyn,
      Hosanna mwy.

Pan ddelo’r plant ynghyd,
O bedair rhan y byd,
      I’w mangre hwy;
Tan obaith yn ddilyth,
Cael telyn yn eu plith,
I ganu heb gwyno byth,
      Hosanna mwy.

Tra bwyf ar riwiau serth,
Preswylydd mawr y berth,
      Rho’th gwmni trwy;
Mae cofio am y loes
Dan arw gur y groes,
Yn rhyw feluso f’oes,
      Hosanna mwy.

Na ddigied neb o’r plant,
Am imi ganu ar dant
      O’u telyn hwy: 
Myfyrio’r tywydd du
Fu ar ein Iesu cu,
A droes fy nghan mor hy’,
      Hosanna mwy.

ANGAU.

Englynion a ysgrifenwyd yn ddifyfyr ym mynwent y Wyddgrug.

Copyrights
Project Gutenberg
Gwaith Alun from Project Gutenberg. Public domain.