Gwaith Alun eBook

This eBook from the Gutenberg Project consists of approximately 84 pages of information about Gwaith Alun.

Gwaith Alun eBook

This eBook from the Gutenberg Project consists of approximately 84 pages of information about Gwaith Alun.

Gyd ag eistedd, deuai angau
   ’N nesu ati gam a cham,
Ac ni throi oddiar ei siwrnai,
   Er gwaedd mil, er gweddi mam;
Delwai’r tylwyth gan yr alaeth,
   Gwnaent ei gwely fel yn lli’,
Hithau’n dawel dan yr artaith,
   Pawb och’neidient ond y hi.

Pan oedd oed yn rhoddi coron
   Aeddfed ar ei dull a’i dawn;
Myrrh ac olew yr Ysgolion,
   Wedi’i pherarogli’n iawn;
Pob disgwyliad gwych yn agor,
   Hithau’n ddedwydd yn ei rhan,
Cadd ei galw ar ei helor,—­
   Y swyn a dorrwyd yn y fan.

Treigliad ei golygon llachar,
   Ei throediad ysgafn ar y ddol,
Corff ac enaid oll yn hawddgar,
   Dynnai’r galar ar ei hol;
Ond mae tryliw rhos a lili,
   Wedi gwelwi ar ei gwedd,
’N awr ni ddena serch cwmpeini
   Mwy na phryfed man y bedd.

Ffarwel iddi! boed i’r ywen
   Gadw llysiau’i bedd yn llon,
A gorwedded y dywarchen
   Werdd, yn ysgafn ar ei bron
Sycher dagrau ei rhieni,—­
   Ior y Nef i’w harwain hwy,
Nes y cwrddant ryw foreuddydd,
   Na raid iddynt ’mado mwy.

CYFIEITHIAD O FEDD-ARGRAFF SEISNIG.

Ty llong gadd lan, lle’r oedd fy nghais,—­
   O’r tonnau treiddiais trwy;
Er dryllio’m hwyl gan lawer gwynt,
   Na chlywir monynt mwy.

O gernau’r ’storm ces ddod yn rhydd,
   Daeth angau’n llywydd llon,
A pharodd im’ mewn gobaith glan,
   Angori’n ’r hafan hon.

BUGEILGERDD.

Ar don “Kate Kearney.”

DEWI.

A welaist, a ’dwaenaist ti Doli,
Sy’ a’i defaid ar ochr Eryri? 
   Ei llygad byw llon
   Wnaeth friw ar fy mron,
Melusach na’r diliau yw Doli.

HYWEL.

O do, mi adwaenwn i Doli,—­
Mae’i bwthyn wrth droed yr Eryri;
   ’D oes tafod na dawn
   All adrodd yn iawn
Mor hawddgar a dengar yw Doli.

Un dyner, un dawel yw Doli,—­
Mae’n harddach—­mae’n lanach na’r lili;
   ’Does enw is nen
   A swnia’n ddisen
Mor ber gyda’r delyn a Doli.

DEWI

Ow! ow! nid yw’n dyner wrth Dewi,—­
’Does meinir yn delio fel Doli,
   Er ymbil a hi
   A’m llygad yn lli,
Parhau yu gildynus mae Doli.

Ymdrechais wneyd popeth i’w boddio,
Mi gesglais ei geifr idd eu godro,
   Dan obaith yn llwyr
   Y cawn yn yr hwyr
Gusanu yn dalu gan Doli.

Mae’i mhynwes mor wynned a’r eira,—­
Mae’i chalon mor oered mi wiria’;
   Ar f’ elor ar fyrr
   Fy nghariad a’n ngyrr—­
O oered a deled yw Doli!

Tri pheth a dim mwy wy’n ddymuno,—­
Pob bendith i Doli lle delo,—­
   Cael gweled ei gwedd
   Nes myned i’m medd,—­
A marw yn nwylo fy Noli.

YR HEN AMSER GYNT.

Bu’n hoff i mi wrth deithio ’mhell
   Gael croesaw ar fy hynt;
Mil hoffach yw cael “henffych well”
   Gan un fu’n gyfaill gynt.

Copyrights
Project Gutenberg
Gwaith Alun from Project Gutenberg. Public domain.