Gwaith Alun eBook

This eBook from the Gutenberg Project consists of approximately 84 pages of information about Gwaith Alun.

Gwaith Alun eBook

This eBook from the Gutenberg Project consists of approximately 84 pages of information about Gwaith Alun.

“Ya le y mae! ow gwae! ai gwir? 
   Nad yn ei dir, o dan y dail
A eiliai gynt drwy helyg ir?—­
   Nid uwch ei fir—­gan d’wchu ei fail;—­
Ni wela wych olygfa’r waen,
   Ni swnia’i droed yn nawnsiau’r dref,
Gwych yw’r olygfa fel o’r blaen,
   A dawnsia myrdd, ond ple mae ef?

Ei ddiddan Elia ddyddiau’n ol
   Dywysai i’r ddol ar hwyrol hynt;
Wrth ochrau’r llyn o’r dyffryn dardd
   A gwaelod gardd fe’i gwelwyd gynt;
Is gwe o fill ni wasga’r fun,
   (Ei ardd a wnaeth fel gerddi nef
Ag urdd o ros).  Mae’r gerddi’r un,
   Ac Elia’r un—­P le gwelir ef?

Fel nablau’r cor rhoe’i gerddor gan,
   O’i deithi glan, nid aeth yn gloff;
Rhaiadrau, llynnau, gwyrthiau gant,
   Oddeutu ei nant sydd eto’n hoff
O’i dy—­mur hwn nid yw mor hardd;
   Adwyau geir ar hyd ei gae,
A gwywa’n rhes eginau’r ardd,
   Ymhola mill—­Y mh’le mae ef?

Mae beddfan newydd yn y Llan,
   Yr aelwyd ddengys gadair wag;
Ac wrth y bedd, a’r wedd yn wan
   Doluriau serch rhyw ferch a fag;
A’r ddol, lle bu yn gadu’r gwynt,
   Ni wela’i lun, ni chlywa’i lef,
Bonllefau rhai a garai gynt,
   Pa le maent hwy? Pa le mae ef?

GWAHODDEDIGION EISTEDDFOD TRALLWM, 1824.

Englynion difyfyr i’r Arglwyddes Clive a’i phlant.

Enynnwn i uniawn annerch—­talaeth,
      Am roi telaid eurferch
   Montrose, mewn rhwymyn traserch
   I Bowys hen—­man gwib serch.

Yr ysgeill yn ol hir wasgar—­can-oes
      I’r cenin sy’n gymar;
   Tan wen cyd-dyfant yn war
   Eu deuodd yn fri daear.

Mwy yn yr hil, y mae’n rhaid—­y rhennir
      Holl rinwedd y ddwy-blaid;
   Trwy eu bron, yn hylon, naid
   Hen nwyfau eu hynafiaid.

Os daw rhyw haid, i rwystro hedd—­ein tir,—­
      Nes troi ein tai’n garnedd,
   Yn y ddiras gynddaredd,
   Hil Clive fydd yn dal y cledd.

Ond i hedd a dyhuddiant,—­i godi
      Dysgeidiaeth, tueddant,
   Awenyddion a noddant,
   Eu hiaith hen, a cherdd, a thant.

Trwy’u diwrnod tyrred arnynt—­bob undeb
      A bendith—­llwydd iddynt;
   Anwylaidd gynnal wnelynt
   Dud a gwaed hen dadau gynt.

CAROLINE.

Llinellau ar farwolaeth Miss Hughes, merch y Parch.  M. Hughes, Periglor Llanwyddelan, Trefaldwyn.

Ceisiais dybio’r son yn anwir,
   Syrthio Caroline i lawr,
Ac nad allai seren eglur,
   Fachlud wedi t’wnnu ond awr: 
Ond y glul ar gefn yr awel,
   Swn y fron yn hollti’n ddwy,
Adsain och sy’n gwaeddi’n uchel,
   Ofer anghrediniaeth mwy.

Hir y cofir y diwrnod
   A esgorodd ar y gwae,
Pan y rhedai i gyfarfod
   Cyfeillesau i odrau’r cae;
Blaenai’r dyrfa tu a’r annedd,
   Crechwen ar ei hwyneb pryd;
Ychydig dybiai mai i’w hangladd,
   ’Roedd yn gwadd y cwmni ynghyd.

Copyrights
Project Gutenberg
Gwaith Alun from Project Gutenberg. Public domain.