Gwaith Alun eBook

This eBook from the Gutenberg Project consists of approximately 84 pages of information about Gwaith Alun.

Gwaith Alun eBook

This eBook from the Gutenberg Project consists of approximately 84 pages of information about Gwaith Alun.

“RHYWUN.”

Clywais lawer son a siarad
Fod rhyw boen yn dilyn cariad;
Ar y son gwnawn innau chwerthin
Nes y gwelais wyneb Rhywun.

Ni wna cyngor, ni wna cysur,
Ni wna canmil mwy o ddolur,
Ac ni wna ceryddon undyn
Beri im’ beidio caru Rhywun.

Gwyn ac oer yw marmor mynydd,
Gwyn ac oer yw ewyn nentydd;
Gwyn ac oer yw eira Berwyn,
Gwynnach, oerach, dwyfron Rhywun.

Er cael llygaid fel y perlau. 
Er cael cwrel yn wefusau,
Er cael gruddiau fel y rhosyn,
Carreg ydyw calon Rhywun.

Tra bo clogwyn yn Eryri,
Tra bo coed ar ben y Beili,
Tra bo dwfr yn afon Alun,
Cadwaf galon bur i Rywun.

Pa le bynnag bo’m tynghedfen,
P’un ai Berhiw ai Rhydychen,
Am fy nghariad os bydd gofyn,
Fy unig ateb i fydd—­Rhywun.

Caiff yr haul fachludo’r borau,
Ac a moelydd yn gymylau,—­
Gwisgir fi mewn amdo purwyn
Cyn y peidiaf garu Rhywun.

[Cartref Gwyn:  “Gwynnach, oerach, dwyfron Rhywun.”:  alun48.jpg]

MAES GARMON.

Rhagymadrodd.

Boed Hector flaenor a’i floedd,
Eirf Illium a’i rhyfeloedd,
Groeg anwar mewn garw gynnen,
Bynciau y per Homer hen;
Hidled Virgil, wiwged was,
Win awen uwch AEneas;
Gwnaed eraill ganiad eurwedd
Am arfau claer,—­am rwyf cledd,
Byllt trwy dan gwyllt yn gwau,
Mwg a niwl o’r magnelau;
Brad rhyw haid, a brwydrau hen,
Oes, a phleidiau Maes Flodden; {45a}
Gwarchau, a dagrau digrawn,
Cotinth a Valencia lawn, {45b}
Eiliant bleth, a molant blaid
Gywreinwych ei gwroniaid.

Mae gennyf yma i ganu
Fwy gwron, sef Garmon gu;
Ag eirf dig eu gorfod oedd,
Gorfodaeth braich gref ydoedd;
Hwn gadd glod a gorfodaeth
Heb ergyd na syflyd saeth;
I lu duwiol a diarf
Yn wyrth oedd,—­ac heb nerth arf;
Duw yn blaid, a wnae eu bloedd
Heibio i ddawn y byddinoedd.

Hwyrddydd ar y Mor.

Y dwthwn ’raeth cymdeithas
Gwyr Rhufain, o Frydain fras,
Ar hwyrddydd o ryw harddaf,
Mwyna ’rioed yn min yr haf;
E giliai’r haul, glauar hin,
Ag aur lliwiai’r Gorllewin;
Goreurai gyrrau oerion,
Ferwawg a del frig y donn;
Holl natur llawen ytoedd,
Ystwr, na dwndwr, nid oedd;
Ond sibrwd deng ffrwd ffreudeg
Llorf dannau y tonnau teg;
A’r tawel ddof awelon,
Awyr deg ar warr y donn;
Ton ar don yn ymdaenu,
Holl anian mewn cyngan cu,
Gwawr oedd hyn, a gyrr i ddod,
Ac armel o flaen gwermod;
Cwmwl dwl yn adeiliaw,
Oedd i’w weled fel lled llaw.

Tymhestl.

Ael wybren, oedd oleubryd,—­a guddid
   Gan gaddug dychrynllyd,—­
Enynnai yr un ennyd,
Fel anferth goelcerth i gyd. 
Mor a thir a’u mawrwaith oedd,
Yn awr, fal mawr ryfeloedd;
Mawr eigion yn ymrwygo,
Ar fol ei gryf wely gro;
Archai—­gan guro’i erchwyn,

Copyrights
Project Gutenberg
Gwaith Alun from Project Gutenberg. Public domain.