Gwaith Alun eBook

This eBook from the Gutenberg Project consists of approximately 84 pages of information about Gwaith Alun.

Gwaith Alun eBook

This eBook from the Gutenberg Project consists of approximately 84 pages of information about Gwaith Alun.

[Castell Conwy.  “Heb elynion o Gonwy O fewn maes i’w hofni mwy.”:  alun25.jpg]

   “A thew ffrwyth ar
   Gwnna’n gynnar;
Daw mawnog, gallt, a mynydd,
A bronydd, yn dir braenar. 
“Y ddwy wlad cyd addolant,
Cyd foli’r Ion union wnant;
Rhont glodydd i’w Dofydd da,
Law-law mewn Haleluia: 

“Yna y tyf yn y tir
Bob helaeth wybodaeth bur,
O ddirgelion meithion mor,
Daear, a’i sail, hyd i’r ser.

“Helicon pob ffynnon ffel,
Parnassus pob bryn isel: 
Eu rhyfedd faner hefyd
Achuba, orchfyga fyd;
O Gressi’r maes hagr asw,
I antur lan Waterlw: 
Ac y diwrnod cadarnwych
Bydd y deyrnas addas wych
Heb ei bath, heibio i bob
Un arall o fewn Ewrob;
Rheola mewn rhialyd
O begwn i begwn byd.”

Gyda bloedd, gweda Bleddyn,
“Y nefol Ior wna fel hyn,
Foreu tawel o frad tywyll,
A llewyrcha o’r ddichell erchyll: 
Molwn Dduw y Nef, gan sefyll,
Yna pawb a awn i’n pebyll.”

CERDD CALAN GWYLIEDYDD Y WYDDGRUG.

Ymysgydwch o’ch cysgadrwydd—­
   Yn filoedd dowch i foli Duw;
Torrodd gwawr ar flwyddyn newydd,
   Gobeithiaf mai un ddedwydd yw: 
Mae pob Calan fel yn gwaeddi,
   A’r tymhorau bob yr un,—­
Yn eu dull yn dwys bregethu—­
   “Derfydd dyddiau byrion dyn.”

Heddyw’m gorchwyl innau dderfydd,
   Alwai’n chwaneg mo’no chwi;
Drwy fy nghylch yn bur wyliedydd
   A lladmerydd y bum i;
Mi fynegwn ddull y tywydd,
   P’un ai teg ai garw’r gwaith,
Fel y gwypech ar obenydd
   Ai addas oedd y dydd i daith.

Do, mi wyliais gylch eich drysau
   Ar ryw oerion oriau hir,
Rhag i ddynion drwg eu nwydau
   Dorri eich aneddau’n wir;
Tywydd garw, mwy nag oerni,
   Ni wnai nhroi oddiar fy nhaith,
A chan ofal i’ch gwas’naethu
   Methais gysgu lawer gwaith.

Daeth fy ystod at ei therfyn,
   Darfu’m tro oddeutu’ch tre’,
Un galenig wyf yn ofyn
   Am fy llafur yn y lle;
Chwi sy’n meddu da a moddion—­
   Digon sy’n eich llety llawn,—­
Gwnai ychydig o’ch gweddillion
   DIC a’i deulu’n llawen iawn.

LLWYDD GROEG.

Awdl ar fuddugoliaethau diweddar y Groegiaid ar y Tyrciaid.

Llwydd, llwydd, fwyn arwydd, i fanerau—­Groeg,
   Hir rwyged ei llongau
Bob rhes o lu gormes gau,
Drwy’r moroedd draw a’r muriau.

“A llwydd gyfarwydd a fo
I’w Rhyddid, yn eu rhwyddo: 
Na lanwed yn oleuni,
Cafn y Lloer {33} uwch cefn y lli’;
Ond isel, isel eisoes
Drwy gred ymgrymed i’r Groes.

A thra tonn, Marathon, a muriau,
A rhin milwyr yr hen ymylau,
A gaent ffyniant gynt a hoff enwau,
O’u iawn barodrwydd, yn eu brwydrau,
Gwasgarer, gyrrer dan gaerau,—­yn haid,
Weis Soldaniaid, isel eu doniau.”

[Marathon.  “A thra tonn, Marathon, a muriau, A rhin milwyr yr hen ymylau.”:  alun33.jpg]

Copyrights
Project Gutenberg
Gwaith Alun from Project Gutenberg. Public domain.